Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14 Hydref 2014

 

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(223)

 

<AI1>

1     Cwestiynau i'r Prif Weinidog

 

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI1>

<AI2>

2     Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Dechreuodd yr eitem am 14.16

 

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 6 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI2>

<AI3>

3     Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Dechreuodd yr eitem am 15.02

 

Gofynnwyd cwestiynau 1-7, 9-11, 13 a 15. Tynnwyd cwestiynau 8 a 14 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 12 i’w ateb yn ysgrifenedig. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

</AI3>

<AI4>

4     Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

 

Dechreuodd yr eitem am 15.45

 

</AI4>

<AI5>

5     Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Adfywio Canol Trefi

 

Dechreuodd yr eitem am 16.00

 

</AI5>

<AI6>

6     Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014

 

Dechreuodd yr eitem am 16.28

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5598 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o'r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2014 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Medi 2014.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

1

24

52

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI6>

<AI7>

7     Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Addysg Uwch (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 16.32

 

NDM5597 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

 

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg Uwch (Cymru)

 

Gosodwyd Bil Addysg Uwch (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 19 Mai 2014;

 

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil Addysg Uwch (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 3 Hydref 2014.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI7>

<AI8>

8     Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â'r Bil Addysg Uwch (Cymru)

 

Dechreuodd yr eitem am 17.16

 

NDM5596 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Addysg Uwch (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o'r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

</AI8>

<AI9>

9     Dadl: Adroddiad Blynyddol 2013-14 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

 

Dechreuodd yr eitem am 17.16

 

NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

 

Nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu'r Bil Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014 sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.

 

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu'r ffaith bod gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.

 

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.

 

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.

 

Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn credu bod parhau i fod yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu'r rôl sylfaenol y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5595 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

 

1. Nodi Adolygiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru: 'Diogelu a Hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol'.

 

2. Yn croesawu'r Bil Caethwasiaeth Modern a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Mehefin 2014 sy'n cynnig y dylid cyflwyno cosbau llymach ar gyfer masnachwyr mewn pobl ac sydd â'r nod o wella sut y caiff dioddefwyr eu gwarchod.

 

3. Yn croesawu'r ffaith bod gorfodi rhywun i briodi yn erbyn ei ewyllys yn awr yn drosedd.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob ysgol aelod hyfforddedig o staff sydd â'r arbenigedd i adnabod plant sy'n dangos arwyddion o fod yn dystion i gam-drin domestig.

 

5. Yn gofyn bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i atal anffurfio organau cenhedlu benywod.

 

6. Yn gresynu nad oes llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran cael menywod i swyddi o awdurdod a dylanwad yng Nghymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

 

7. Yn credu bod parhau i fod yn llofnodwr i'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol o fudd i Gymru.

 

8. Yn croesawu'r rôl sylfaenol y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ei chwarae wrth ddiogelu a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

11

52

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

</AI9>

<AI10>

10Cyfnod Pleidleisio

 

Dechreuodd yr eitem am 18.01

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

 

Daeth y cyfarfod i ben am 18.03

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Hydref 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>